Bl.13 Mathemateg Lefel A

Dysgwr sydd angen cefnogaeth gyda Maths Lefel A. Bl.13 sydd am sicrhau A ar gyfer cwrs Prifsygol.
Hapus i dderbyn sesiynau ar-lein

Dysgwr sydd angen cefnogaeth gyda Maths Lefel A. Bl.13 sydd am sicrhau A ar gyfer cwrs Prifsygol.
Hapus i dderbyn sesiynau ar-lein

Dysgwr sydd angen cefnogaeth gyda Gwyddoniaeth TGAU Bl.11 Mae wedi cyflawni arholiadau haen sylfaenol Bl.10 gan gyrraedd gradd o gwmpas C
Mae angen adeiladu hyder i gael pasio’r papurau gyda gradd C cryf yng Ngwyddoniaeth.
Hapus i dderbyn sesiynau ar-lein

Dysgwr sydd angen cefnogaeth gyda Ffiseg AS/A2 sydd ym mlwyddyn 13. Mae yn bwriadau ail-sefyll unedau 12 felly bydd angen cymorth gyda rhain a gyda’r unedau presennol
Hapus i dderbyn sesiynau ar-lein

Dysgwr sydd angen cefnogaeth gyda Mathemateg Haen Uwch. Mae yn y set top mewn Ysgol yn Ne Cymru ond yn ddim yn hyderus ac am ychydig fwy o amser i ddod i ddeall cysyniadau.
Wrth i’r llwch setlo ar ôl diwrnod y canlyniadau mae nawr yn amser da i edrych ar eich canlyniadau a’r hyn maen nhw’n ei olygu i chi a’r flwyddyn sydd i ddod. Mae’r erthygl hon ar gyfer blwyddyn 12 a 10 a byddaf yn canolbwyntio ar Wyddoniaeth ond mae’r egwyddorion yr un peth ar gyfer pob pwnc modiwlaidd.
Felly, mae gennych allbrint gyda graddau a marc. Y duedd yw canolbwyntio ar y radd er bod y marc yr un mor bwysig os nad yn bwysicach. Gelwir y marc a roddir yn farc GMU a hwn fydd yn cael ei adio ynghyd â marciau GMU ar gyfer pob modiwl i roi gradd derfynol i chi. Ym mlwyddyn 10 neu 12 rydych lai na hanner ffordd drwy eich asesiadau ac felly dim ond syniad o ble rydych chi arni y mae hyn yn ei roi. Mae deall y rhain yn caniatáu ichi weld beth sydd ei angen arnoch yn y modiwlau sy’n weddill i gyrraedd eich targed a phenderfynu a ydych am ailsefyll unrhyw fodiwlau.
Mae’r ffiniau graddau ar gyfer y sgorau GMU bob amser yr un fath a gallwch ddod o hyd iddynt yn y maes llafur CBAC o dan y pennawd Graddio, Dyfarnu ac Adrodd. Daw’r enghraifft hon o TGAU Bioleg:

Yn yr unedau arholiad (1 + 2) mae angen 108 arnoch i ennill gradd C. Uned 3 yw’r elfen gwaith cwrs. Bydd sgorau’r holl unedau wedi’u hadio at ei gilydd yn rhoi’r radd derfynol fel y dangosir isod;

Nid yw hyn yn rhoi’r stori yn ei gyfanrwydd gan fod yr GMU yn cael eu trosi o’r marc crai ar y papur. Gwneir hyn i sicrhau cysondeb a bod gradd A o un flwyddyn yn cyfateb i’r holl flynyddoedd eraill. Gan y gallai’r papurau fod â lefelau ychydig yn wahanol o her, gall hyn newid ond gallwch weld sut mae marciau crai papur penodol wedi’u trosi ar y ddolen ganlynol:
https://services.portal.wjec.co.uk/MarkToUMS/default.aspx?l=cy
Mae angen i chi ddewis y flwyddyn, pwnc, papur a lefel gywir ar y brig a bydd y wybodaeth yn ymddangos fel isod:

Dyma bapur Uned 1 Bioleg eleni, lefel sylfaen. Mae’r marc crai allan o 80 ac o’r tabl uchaf gallwch weld mai ffin C yw 35 allan o 80. Gan mai papur sylfaen yw hwn, yr uchafswm GMU y gallwch ei gyrraedd yw 125, ac yn y papur hwn bydd angen 41 arnoch. marc crai arnoch i gyrraedd hynny.
Ychydig o bethau i’w cofio am ail-sefyll: