Rhagori mewn Bioleg AS/A2 

 

 

O brofiad tiwtora a pharatoi dysgwyr ar gyfer AS/A2 Bioleg rydym wedi gallu dyfeisio rhaglen sy’n arfogi myfyrwyr â’r strategaethau ac adnoddau sy’n rhoi iddynt y cyfle gorau i lwyddo.

Mae AS/A2 yn gymhwyster sy’n gam sylweddol o TGAU a gyda’r amser ysgol a gollwyd y blynyddoedd ddiwethaf, mae hyd yn oed fwy pwysig cael cymaint o gymorth â phosib.

 

Mae ein rhaglen yn gymysgedd o sesiynau tiwtora grwp arlein, adnoddau ar gyfer gwaith unigol, a sesiynau mewn person.  Y bwriad yw creu yr amgylchedd cywir a’r arferion sy’n osgoi tanberfformio a gwneud y siwrne i lwyddiant mor didrafferth â phosib.   Mae’r ffocws ar ddatblygu’r cysyniadau allweddol, strategaethau i ddysgu ac atgyfnerthu terminoleg ynghyd ag ymarfer cyson o sgiliau allweddol.

 

 

 

Sut Ydyn yn Helpu:

Sesiwn Byw:

  • Sesiwn Ar-lein

  • Grŵp bach

  • Ffocws ar bwnc penodol

  • Adolygu gwybodaeth, dealltwriaeth ac ymarfer sgiliau

  • Ymarfer cwestiynau Arholiad

Adnoddau Arlein:

  • Cyflwyniadau

  • Cysylltiadau Defnyddiol

  • Cwestiynau Cyflym

  • Cwestiynau arholiad a cynlluniau marcio

Sesiwn Agored:

  • Sesiwn Ar-lein

  • Agored i bawb

  • Pynciau wedi cynnig gan dysgwyr

  • Fforwm i godi problemau gyda rhannau penodol o’r gwaith

Rydym yn gweithio ar dri prif faes:

“Ochr yn ochr â’r strategaethau sy’n helpu dysgwyr i lwyddo yn AS/A2 rydym hefyd yn darparu amgylchedd gefnogol i fagu hyder ac agwedd bositif yn ogystal â meithrin yr arferion sy’n adeiladu llwyddiant.”

 

Y Manteision:

 

  • Fe gewch chi sylfaen gadarn yn y cysyniadau pwysig a gwybodaeth Fiolegol gadarn.

  • Byddwn yn datblygu hyder yn y sgiliau gwyddonol sy’n sail i waith arbrofol a thasgau asesu eraill

  • Byddwch yn datblygu’r sgiliau dadansoddi a gwerthuso mewn cwestiynau.

  • Byddwn yn datblygu’r defnydd o esboniadau wrth ymateb i gwestiynau arholiad gan fodelu atebion perffaith.

  • Byddwch yn adeiladu’r arferion a fydd yn eich helpu i werthuso a gwella eich perfformiad.

  • Byddwch chi wedi gosod eich nod ac yn cynllunio’ch llwybr i lwyddiant

  • Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd lle mae rhagoriaeth yn cael ei feithrin

 

 

Dyfrig is an excellent tutor to my year 9 ( going into year 10) daughter. Science is not her favourite subject but she is willing to listen and learn with Dyfrig,  I highly recommend Dyfrig and Rhagori.
Rhiant/Parent Bl.10

Caerdydd/Cardiff

Beth mae pobol yn ei ddweud am Rhagori:

Diolch am wasananeth rhagorol!

Rhiant/Parent Bl.11

Bro Morgannwg/Vale of Glamorgan

Rydym yn hynod hapus gyda’r gwersi – maent yn werthfawr dros ben ac yn cydfynd yn berffaith gyda’r gwaith ysgol sy’n cael ei osod ar y pynciau.
Rhiant/Parent Bl.7/10

Caerdydd/Cardiff

The sessions had limited small numbers which meant every learner was given full attention and any difficulties addressed quickly.  It also allowed each learner to feel comfortable enough to ask questions without feeling self conscious.
Rhiant/Parent Bl.10

Rhondda Cynon Taf

 

Beth yw’r ymrwymiad?

 

Mae yna sesiynau byw yr hoffem i bawb eu mynychu a thasgau sydd i’w cwblhau yn eu hamser eu hunain. Bydd dwy sesiwn â ffocws benodol yn ystod yr wythnos lle bydd tasgau i’w cwblhau yn eich amser eich hun. Bydd sesiwn drws agored hefyd yn ystod yr wythnos gall unrhyw un fynych i drafod problemau unigol.

Cwestiynau Cyffredin

 

Pam sesiynau grŵp ac nid un i un?

 

Mae gweithio fel grŵp yn golygu ein bod yn adeiladu amgylchedd o lwyddiant lle mae myfrwyr yn cymysgu â chyfoedion sydd yn yr un sefyllfa. Rydym yn creu amgylchedd lle gallant ddysgu oddi wrth ei gilydd a datblygu sgiliau cyfathrebu, gweithio mewn grŵp ayyb.

 

Pam Ar-lein?

 

Mae’r holl sesiynau ar-lein ar hyn o bryd gan fod hyn yn dilyn canllawiau Iechyd a Diogelwch o ran Covid ond rydym wedi gweld bod gan hyn fantais benodol. Mae’n cynyddu hyblygrwydd trwy leihau ar deithio i’r dysgwr a’r tiwtor. Mae’r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd yn golygu y gallwn rannu deunydd yn rhwydd a defnyddio meddalwedd briodol i helpu i addysgu ac atgyfnerthu dysgu.

 

 

Cymharu Sesiynau Grŵp a Sesiynau Unigol

Sesiynau Unigol

  • Yn gallu canolbwyntio yn unig ar faterion penodol neu’r asesiad nesaf

  • Gall fod yn amgylchedd lle mae pwysau ar y dysgwr

  • Mae’r ffocws ar yr awr / oriau.

  • Gellid ystyried mai cael tiwtor yw’r ateb.

  • Yn dibynnu ar y berthynas â’r tiwtor

Sesiynau Grŵp

  • Yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder fel bod gan y dysgwr yr hyder i ddelio ag unrhyw beth.

  • Yn fwy hamddenol, dull grŵp o ddatrys problemau, mae dysgu’n digwydd orau heb straen.

  • Mae gan y sesiwn fyw yr un pwysigrwydd â’r tasgau a gwblheir yn eu hamser eu hunain. Mae hyn yn annog hunanddisgyblaeth a’r arferion da a fydd yn helpu ar draws y cwrs cyfan.

  • Y dysgwr sy’n gyfrifol am ei ddysgu a mae’n arwain at newid agwedd, datblygu arferion da a magu hyder.

  • Daw ysbrydoliaeth o lwyddiant y grŵp a pherthynas â’r tiwtor .

Dyma sut mae’n gweithio.  Mae yna sesiynau byw grŵp yn ystod yr wythnos i gyflwyno prif syniadau a sut maent yn cael eu defnyddio mewn pynciau penodol.  Mae’r sesiynau yn cael eu hailadrodd ac felly dim ond un sesiwn sydd angen mynychu.  Wrth ymuno byddwn yn gofyn pa sesiwn fydd yn gyfleus a dyna’r un byddwch yn mynychu er bod peth hyblygrwyd petai problem yn codi.  Mae’r sesiynau dal i fyny yn agored a byddwn yn edrych ar unrhyw broblemau sydd wedi codi neu bwnc mae dysgwr yn gofyn i wneud.
Yn ogystal, tu allan i’r sesiynau bydd adnoddau ar-lein ar gael yn cynnwys hunan brofion, cyflwyniadau a chwestiynau ymarfer, y nod yw bod ‘rhain yn atgynerthu gwaith y sesiynau.
 

 

Llun

Maw

Iau

 

 

 

 

 

 

 

 

6.40 – 7.40 Sesiwn Fyw  Bioleg A2

 

5.30 – 6.30 Sesiwn Fyw  Bioleg AS

 

6.40 – 7.40 Sesiwn Fyw  Bioleg A2

 

 

 

5.50 – 6.30 Sesiwn Agored AS

6.35 – 7.15 Sesiwn Agored A2

 

 

Cysylltwch i Drafod

Trefnwch alwad ar amser sy’n gyfleus i chi i ddarganfod mwy.