Rhagori mewn Gwyddoniaeth TGAU
Cefnogaeth i gael y graddau gorau mewn TGAU Gwyddonaieth.
O brofiad tiwtora a pharatoi dysgwyr ar gyfer Gwyddoniaeth TGAU rydym wedi gallu adnabod rhai o’r rhesymau mwyaf cyffredin dros danberfformio. Mae’r rhain yn cynnwys peidio â deall rhai cysyniadau allweddol yn llawn, peidio â bod â gwybodaeth sicr o derminoleg hanfodol, peidio â gwerthfawrogi’n llawn sut mae’r dull gwyddonol yn gweithio, a pheidio â delio â chwestiynau dadansoddi a gwerthuso data yn hyderus. Gyda’r amser ysgol a gollwyd dros y blynyddoedd diwethaf, gall hyn ddod yn fater o bwys cynyddol.
Addas ar gyfer Bl.10 a Bl.11.
Gall hyn olygu peidio â chyrraedd y radd orau bosibl ac yn sicr gall olygu ei fod yn gwneud y siwrnai i lwyddo yn anoddach nag y mae angen iddi fod. Wrth adeiladu mae angen sylfaen gadarn arnoch chi a dyna beth mae ein rhaglen newydd yn ei ddarparu. Mae’r ffocws ar ddatblygu’r cysyniadau allweddol, strategaethau i ddysgu ac atgyfnerthu terminoleg ac ymarfer cyson dulliau gwyddonol, dadansoddi data a gwerthuso.

Sut Ydyn yn Helpu:
Y Prif Sesiwn:
Sesiwn Ar-lein
Grŵp bach
Ffocws ar bwnc penodol
Adolygu gwybodaeth, dealltwriaeth ac ymarfer sgiliau
Ymarfer cwestiynau Arholiad
Adnoddau Arlein:
Cyflwyniadau
Cysylltiadau Defnyddiol
Cwestiynau Cyflym
Cwestiynau arholiad a cynlluniau marcio
Sesiwn Agored:
Sesiwn Ar-lein
Agored i bawb
Pynciau wedi cynnig gan dysgwyr
Fforwm i godi problemau gyda rhannau penodol o’r gwaith
Sut Mae Anelu at Rhagoriaeth yn Gweithio?
Llun | Maw | Iau |
4.20 – 5.20 Sesiwn Byw TGAU Bl.105.30 – 6.30 Sesiwn Byw TGAU Bl.11 | 4.20 – 5.20 Sesiwn Byw TGAU Bl.115.30 – 6.30 Sesiwn Byw TGAU Bl.10 | 4.20 – 5.00 Sesiwn Agored Bl.105.05 – 5.45 Sesiwn Agored Bl.11
|
Y Prif Sesiwn!

Mae yna sesiynau byw grwp yn ystod yr wythnos i gyflwyno prif syniadau a sut maent yn cael eu defnyddio mewn pynciau penodol.
Mae’r sesiynau yn cael eu ailadrodd ac felly dim ond un ohonynt sydd angen mynychu. Wrth ymuno byddwn yn gofyn pa sesiwn bydd yn gyfleus a dyna ‘r seswin byddwch yn mynychu pob wythnos. Mae peth hyblygrwydd petai problem yn codi.
Y Sesiwn Agored!
Yn y sesiynau agored byddwn yn edrych ar unrhyw broblemau sydd wedi codi neu bwnc y mae’r dysgwr yn gofyn i wneud.
Mae’n annog dysgwyr i gymryd perchnogaeth o’i dysgu a deall beth sydd angen iddynt ffocysu arno.

Rydym yn gweithio ar dri prif faes:

“Ochr yn ochr â’r strategaethau sy’n helpu dysgwyr i lwyddo yn TGAU rydym hefyd yn darparu amgylchedd gefnogol i fagu hyder ac agwedd gadarnhaol at ddysgu yn ogystal â meithrin yr arferion sy’n adeiladu llwyddiant.”
Y Manteision:
Fe gewch chi sylfaen gadarn mewn cysyniadau a gwybodaeth Wyddonol
Byddwn yn datblygu hyder yn y dull gwyddonol sy’n sail i waith arbrofol a thasgau asesu eraill
Byddwch yn deall y dull gorau o ddadansoddi a gwerthuso mewn cwestiynau.
Byddwn yn annog eich dealltwriaeth o sut i gysylltu mwy nag un cysyniad gwyddonol yn eich esboniadau
Byddwch yn adeiladu’r arferion a fydd yn eich helpu mewn Gwyddoniaeth a phynciau eraill
Byddwch chi wedi gosod eich nod ac yn cynllunio’ch llwybr i lwyddiant
Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd lle mae rhagoriaeth yn cael ei feithrin
Beth mae pobol yn ei ddweud am Rhagori:
Dyfrig is an excellent tutor to my year 9 ( going into year 10) daughter. Science is not her favourite subject but she is willing to listen and learn with Dyfrig, I highly recommend Dyfrig and Rhagori.
The sessions had limited small numbers which meant every learner was given full attention and any difficulties addressed quickly. It also allowed each learner to feel comfortable enough to ask questions without feeling self conscious.
Diolch am wasananeth rhagorol!
Rydym yn hynod hapus gyda’r gwersi – maent yn werthfawr dros ben ac yn cydfynd yn berffaith gyda’r gwaith ysgol sy’n cael ei osod ar y pynciau.

Beth yw’r ymrwymiad?
Mae yna sesiynau byw yr hoffem i bawb eu mynychu a thasgau sydd i’w cwblhau yn eu hamser eu hunain. Bydd opsiwn i fynychu un sesiwn o ddwy yn wythnosol â ffocws benodol yn ystod yr wythnos lle bydd tasgau i’w cwblhau yn eich amser eich hun. Bydd sesiwn drws agored hefyd ar Ddydd Gwener gall unrhyw un fynych i drafod problemau unigol.


Cwestiynau Cyffredin
Pam grŵp ac nid un i un?
Mae gweithio fel grŵp yn golygu ein bod yn adeiladu amgylchedd o lwyddiant lle mae dysgwyr yn cymysgu â chyfoedion sydd yn yr un sefyllfa. Rydym yn creu amgylchedd lle gallant ddysgu oddi wrth ei gilydd a datblygu sgiliau cyfathrebu, gweithio mewn grŵp ayyb.
Pam Ar-lein?
Mae’n cynyddu hyblygrwydd trwy lleihau ar deithio i’r dysgwr a’r tiwtor. Mae’r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd yn golygu y gallwn rannu deunydd yn rhwydd a defnyddio meddalwedd briodol i helpu i addysgu ac atgyfnerthu dysgu.

Pwysigrwydd adnoddau ar-lein.
Yn allweddol i lwyddiant yw adeiladu arferion da ac un o’r rhai mwyaf effeithiol yw ymarferion byr sy’n atgyfnerthu dysgu. Yn ein hardal adnoddau ar y wefan mae yna ymarferion wedi cysylltu ag agweddau o’r pwnc sy’n medru cael eu gwneud mewn ychydig o funudau. Mae hwn yn ffordd effeithiol o ymgyfarwyddo a syniadau, atgyfnerthu ffeithiau, a dysgu termau.
“Mae’r adnoddau ar-lein nawr ar gael trwy app er mwyn ei defnyddio’n haws ar ffonau symudol”

Cymharu Sesiynau Grŵp a Sesiynau Unigol
Sesiynau Unigol
Yn gallu canolbwyntio yn unig ar faterion penodol neu’r asesiad nesaf
Gall fod yn amgylchedd lle mae pwysau ar y dysgwr
Mae’r ffocws ar yr awr / oriau.
Gellid ystyried mai cael tiwtor yw’r ateb.
Yn dibynnu ar y berthynas â’r tiwtor
Sesiynau Grŵp
Yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder fel bod gan y dysgwr yr hyder i ddelio ag unrhyw beth.
Yn fwy hamddenol, dull grŵp o ddatrys problemau, mae dysgu’n digwydd orau heb straen.
Mae gan y sesiwn fyw yr un pwysigrwydd â’r tasgau a gwblheir yn eu hamser eu hunain. Mae hyn yn annog hunanddisgyblaeth a’r arferion da a fydd yn helpu ar draws y cwrs cyfan.
Y dysgwr sy’n gyfrifol am ei ddysgu a mae’n arwain at newid agwedd, datblygu arferion da a magu hyder.
Daw ysbrydoliaeth o lwyddiant y grŵp a pherthynas â’r tiwtor .


