Cwestiynau Cyffredin
Pwy yw’n cynulleidfa?
Darparwn sesiynau i ddisgyblion sy’n astudio Mathemateg a Gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae pob sesiwn wedi ei theilwra yn addas i gymhwyster a haen benodol. Mae’n bosib y bydd myfyrwyr am fynychu er mwyn gwella’u hunan hyder mewn pwnc, gwella’u techneg arholiad neu wella eu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth bynciol.
Beth all y myfyrwyr ddisgwyl?
Ein nod yw bod pob myfyriwr yn cael profiad cadarnhaol sy’n atgyfnerthu eu dysgu yn y pwnc tra’n hybu eu sgiliau, dealltwriaeth a hyder. Bydd amrywiaeth o weithgareddau a dulliau dysgu ac addysgu ymhob sesiwn – rhai tasgau yn rhyngweithiol ac eraill yn waith unigol. Bydd y mwyafrif o’r sesiynau yn cynnwys mwy nag un myfyriwr ac felly rhydd hyn gyfleon i gyflawni gwaith grŵp.
Mae’n bosib y bydd tasgau i’w cwblhau rhwng sesiynau a bydd cwblhau ‘rhain yn golygu y defnyddir eich hamser yn effeithiol. Darparwn yr holl adnoddau ag eithrio adnoddau ysgrifennu, er bod rhai myfyrwyr yn ffafrio dod â’u llyfr nodiadau eu hunain.
Sut allaf sicrhau bod y sesiynau yn effeithiol?
Mae’n tiwtoriad i gyd yn brofiadol yn eu meysydd pynciol ac mewn paratoi disgyblion ar gyfer arholiadau. Rydym hefyd yn monitro safon y ddarpariaeth yn rheolaidd trwy drafodaeth ac adborth myfyrwyr a rhieni.
Beth sydd angen imi wneud gyntaf?
I gychwyn, cysylltwch â ni trwy drefnu galwad ar y linc isod. Gallwn wedyn drafod eich sefyllfa a phenderfynu ar y ffordd orau ymlaen. Cynhelir sesiynau ar wahanol amserau felly mae’n bosib y ceir dewis o amser ond ni ellir gwarantu hhyn.
Sut ydw i yn talu?
Mae gennym nifer o opsiynau ar gyfer talu gan gynnwys, taliadau cerdyn neu ar-lein. Mae’n rhaid talu ymlaen llaw am y sesiynau.
Beth os ydw i eisiau sesiynau tiwtora mewn pwnc nad yw’n cael ei gynnig ar hyn o bryd?
Er ein bod yn canolbwyntio ar Fathemateg a Gwyddoniaeth, gallwn drefnu sesiynau ar gyfer pynciau eraill yn dibynnu ar y galw ac argaeledd tiwtor addas. Cysylltwch â ni a gallwn drafod eich anghenion er mwyn gweld os allwn ni eu diwallu.
Beth os ydw i eisiau sesiwn tiwtora unigol?
Bydd angen cymhwyster sy’n angos dealltwriaeth o’r pwnc perthnasol. Yr un mor bwysig yw brwdfrydedd ar cymhelliad ar gyfer gweithio gyda dysgwyr.

