Cofrestrwch fel Tiwtor

Defnyddiwch eich arbenigedd i ennill arian a chefnogi dysgwyr cyfrwng Cymraeg.

Ydych chi’n Athro neu Gyn Athro?

  • Gallwch ennill fwy o arian a chefnogi myfyrwyr mewn ffordd effeithiol, hyblyg a phroffesiynol

Ydych chi’n Fyfyriwr, Is-raddedig neu Ôl-raddedig

  • Gallwn eich helpu i ddechrau tiwtora gan ddefnyddio profiad helaeth y cwmni i gynnal sesiynau effeithiol.

Gallwn gynnig cymorth :

  • Marchnata a dod o hyd i gleientiaid

  • Trefnu Sesiynau a negeseuon atgoffa

  • Cyfathrebu â rhieni a chasglu’r arian

  • Darparu meddalwedd ar gyfer sesiynau

Os ydych yn fyfyriwr neu newydd raddio mae’n brofiad gwerthfawr ar gyfer nifer o swyddi, yn digon hyblyg i ffitio o gwmpas galwadau eraill ar eich hamser.

Mae tiwtora yn cynnig help i ddysgwyr sydd ei angen ac yn rhoi cyfle iddynt gyrraedd eu llawn botensial.

Hyblygrwydd

  • Gallwch ennill arian drwy ddefnyddio eich arbenigedd o’ch cartref.

  • Gweithio ar-lein o’ch cartref, cynnal sesiynau wyneb yn wyneb neu ddefnyddio ystafell ddysgu bwrpasol Rhagori.

  • Cynnal sesiynau tiwtora unigol neu grŵp.

  • Dewiswch eich sesiynau a dewiswch beth fyddwch yn derbyn fel tâl

Cefnogaeth

Drwy weithio gyda Rhagori rydym yn delio â phopeth heblaw am baratoi a chynnal sesiynau.

 

  • Byddwn yn darparu’r feddalwedd ddiweddaraf i sicrhau eich bod yn medru cynnal sesiynau effeithiol.

  • Byddwn yn marchnata ac yn cynnal proffil cyfredol i ddenu cleientiaid

  • Byddwn yn casglu’r arian ac yn talu allan yn rheolaidd.

  • Cynnig cefnogaeth os ydych yn newydd i diwtora neu gefnogaeth dechnolegol.

Proffesiynol

Rydym yn darparu gwasanaeth broffesiynol i’n cleientiaid :

  • Byddwn yn cyfathrebu gyda rhieni a sicrhau taliadau ar gyfer pob sesiwn.

  • Rydym yn defnyddio system bwcio sydd yn danfon negeseuon atgoffa neu os yw sesiwn wedi newid.

  • Mae pob tiwtor â DBS cyfredol a medrwn drefnu hwn i chi.

Ein Cynnig

Cyfle i Ddefnyddio Arbenigedd

Os oes gennych arbenigedd mewn pwnc a phrofiad o addysgu gallwch ddefnyddio ‘rhain i gefnogi myfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Rydym fel cwmni wedi arbenigo mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth ond mae’r galw yn gynyddol am sesiynau tiwtora mewn pynciau eraill. Trwy gofrestru gallwch gefnogi myfyrwyr ar draws yr ystod oed a nodir. Gweler hefyd y rhestr o bynciau isod: 

Cyfnod Alweddol 2/3

TGAU

Lefel AS/A2

Hyblygrwydd

Wrth gofrestru gyda Rhagori, does dim rhaid derbyn unrhyw sesiynau neu fyfyrwyr. Byddwch â mynediad i restr o ddisgyblion sy’n chwilio am diwtor a byddwn yn cysylltu wrth i gynigion newydd ddod i fewn. Byddwch hefyd, os ydych eisiau, yn cael proffeil ar y wefan yn dangos eich profiad a chymwysterau. .

Gallu gweithio oriau sy'n addas

Medru dewis sesiynau, pynciau, lefelau a myfyrwyr

Y feddalwedd i redeg sesiynau ar-lein

Hawdd ei ddefnyddio

Yn enwedig yn ddiweddar, mae sesiynau ar-lein wedi dod yn fwy poblogaidd ac mae gan Rhagori yr arbenigedd a meddalwedd sy’n eich gallugoi i redeg y sesiynau. Byddwch yn defnyddio yr un safle ar gyfer trefnu sesiynau a’u cynnal. Bydd system Rhagori yn cofnodi, danfon negeseuon ebost i’r rhieni i’w hatgoffa am y sesiynau. Bydd ein system yn casglu’r arian yn electronig. Byddwn yn cymryd canran o’r taliad.

Tiwtoriaid Proffesiynol

Tiwtoriaid

Ar ôl cofrestru gyda ni rydym yn dilyn y camau yma i sicrhau ein bod yn defnyddio tiwtoriaid o’r radd flaenaf.

 

  • Cofrestru ar-lein a llenwi proffeil.

  • Byddwn yn adolygu’r proffeil

  • Cewch wahoddiad ar gyfer cyfweliad ar-lein lle byddwn yn trafod eich cefndir a’r mathau o ddysgwyr a fyddai’n ffit orau i chi a pa gefnogaeth gallwn gynnig.

  • Byddwn wedyn yn sicrhau cymwysterau a gwneud gwiriad cefndir

  • Os yn llwyddiannus, cewch fynediad i’r system i ddewis eich cyfleoedd ar gyfer tiwtora

Tiwtora o Gartref

Tiwtora Ar-lein

Mae tiwtora ar-lein yn dod yn fwy fwy cyffredin ac mae manteision i’r tiwtor a’r myfyrwyr.   Medrwch weithio gyda myfyrwyr unrhyw le yn y wlad ac, heb amser teithio, gyda mwy ohonynt.

Fe allwn gynnig yr adnoddau sydd angen arnoch fel rhan o wasanaeth Rhagori.  Mae hyn yn cynnwys, meddalwedd fideo gynhadledda a bwrdd gwyn rhyngweithiol sydd â’r gallu i ryngweithio a rhannu adnoddau.  Fe allwn ddarparu hyfforddiant a chymorth technegol i sicrhau eich bod chi a’r myfyrwyr yn cael y mwyaf allan o bob sesiwn

Dechreuwch y Broses:

Rhai cwestiynau Cyffredin sydd gyda tiwtoriaid!

Sut byddaf yn cael yn dalu?

Ar ôl dechrau, bydd gofyn i chi agor cyfrif gyda Stripe sydd am ddim, bydd arian am y sesiwn yn cyrraedd y cyfrif Stripe o fewn ychydig ddiwrnodau.  Yn dilyn pob sesiwn mae angen i diwtoriad gwbwlhau adroddiad byr. Pam fydd hwn wedi ei gwneud bydd taliad yn cael ei gymryd o’r cleint a bydd yn cael ei drosglwyddo yn uniongyrchol.  Bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo i’ch cyfrif banc ar ddiwedd y mis.  Gallwch newid y dyddiad neu ofyn am drosglwyddiad cynt.

A byddaf wedi fy Ngyflogi gan Rhagori?

Na, rydych yn hunan gyflogedig a mae Rhagori yn gweithredu fel Asiantaeth Cyflogi s’yn dod o hyd i waith i chi fel tiwtor.  I bob pwrpas mae eich cytundeb gyda’r rhieni a dyma pam eich bod yn cael eich talu’n uniongyrchol.  Byddwn yn gallu cynnig cefnogaeth, gwybodaeth, a chyngor yn benodol ar gyfer tâl.

 

Pa gefnogaeth sydd ar gael os nad ydw wedi gweithio fel tiwtor o'r blaen?

Cewch fynediad at gyfres o adnoddau ar  yn cynnwys;

  • Strwythur sesiwn tiwtora
  • Cynllunio cyfres o sesiynau
  • Defnyddio adnoddau yn effeithiol
  • Rhoi adborth effeithiol
  • Cynnig cefnogaeth tu allan i’r sesiynau
Beth os nad oes DBS cyfredol gyda fi?

Gallwn drefnu i chi gael DBS ehangach. Gallwch ddefnyddio hwn ar gyfer unrhyw diwtora.  Byddwn yn gofyn am ymrwymiad o 10 sesiwn lle byddwn yn cymryd ffi ychwanegol er mwyn talu am y DBS.

Faint o oriau a faint o ddysgwyr?

Gallwch ddewis nifer o ddysgwyr, yn gyffredinol byddwn yn gofyn am ymrywymiad o unwaith yr wythnos fel isafswm ar gyfer pob dysgwr.  Byddwn hefyd yn gofyn am ymrhwyiad o hanner tymor ar y tro.  Mae hwn hefyd yn ddibynnol ar y galw.

Pa gymwysterau sydd angen arnaf?

Rydym yn cyflogi athrawon cofrestredig, graddedigion ac is-raddedigion gyda profia dysgu.  Y prif beth yw eich bod yn medru dangos dealltwriaeth a gwybodaeth o’ch pwnc, agwedd adeiladol er mwyn gweithio gyda dysgwyr, a brwdfrydedd yn eich pwnc.  Hefyd, mae’r gallu ar cymhelliad i ddysgu technegau tiwtora yn hanfodol.

A bydd cleintiaid yn cysylltu yn union gyrchol?

Na, byddwn ni yn cyfathrebu y cyfleon sydd ar gael a gallwch gael yr holl fanylion cyn i chi dderbyn neu beidio.  Byddwn ni yn cyfathrebu gyda cleintiaid i drefnu amser ayyb.

A fydd fy data yn ddiogel?

Mae’r meddalwedd rydym yn yn defnyddio i gyd yn cydymffurfio a GDPR a deddfau diogelu data.  Yr unig data fydd yn gyhoeddus, gyda’ch cyniatad, yw enw cyntaf a disgrifiad cyffredinol o’ch cefndir a pynciau/lefelau byddwch yn medru addysgu.