Rhagori mewn Gwyddoniaeth CA3
Nid yw hon wedi bod yn flwyddyn hawdd i lawer o fyfyrwyr ac wrth inni geisio dod yn ôl i normalrwydd sut allwn ni sicrhau na fydd eleni yn effeithio ar asesiadau hanfodol y flwyddyn nesaf.
Rydym yn cynnig cyfle i fyfyrwyr, sydd ym mlwyddyn 9 ar hyn o bryd i weithio yr hyn sy’n allweddol er mwyn llwyddo mewn Gwyddoniaeth TGAU. Mae hwn yn gyfle ardderchog i atgyfnerthu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau fel bod y disgyblion yn cael y cyfle gorau i gyrraedd y nod ym mlwyddyn 10.
Byddwn yn cynnal sesiynau ar-lein dros pedwar wythnos gyda chymysgedd o sesiynau byw yn ogystal â deunyddiau a thasgau ar-lein i’w cwblhau. Byddwn nid yn unig yn edrych ar y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sy’n ofynnol ond hefyd yn dechrau adeiladu’r arferion a’r meddylfryd cywir ar gyfer llwyddiant. Byddwn yn darganfod rhwystrau sy’n effeithio ar gynnydd a sut y gellir eu goresgyn.
Rydym yn gweithio ar dri prif faes:

Arferion
- Beth yw’r ffyrdd gorau o ddysgu ffeithiau allweddol?
- Beth ddylen ni fod yn ei wneud bob dydd, wythnosol a thymor i adeiladu tuag at lwyddiant?
- Sut mae gosod targedau a chynllunio’r strategaethau i’w cyflawni?
- Beth sydd angen i mi ei wneud i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth yn rheolaidd?
- Sut alla i herio fy hun i wella?
Strategaethau
- Pa ddarnau allweddol o wybodaeth sy’n ofynnol fel sail i’r ddealltwriaeth o Wyddoniaeth TGAU yn Bl.10?
- Beth sy’n rhaid i chi ei ddeall i fod yn llwyddiannus mewn TGAU Gwyddoniaeth?
- Sut y gellir mynd i’r afael â thasgau dadansoddi a gwerthuso data?
- Sut mae defnyddio’r dull gwyddonol wrth edrych ar waith arbrofol?
- Pa wybodaeth a dealltwriaeth flaenorol sy’n allweddol i lwyddiant mewn TGAU?
Amgylchedd
- Rydych chi’n rhan o grŵp sy’n canolbwyntio ar lwyddiant
- Yn y grŵp rydym yn gyson yn adeiladu’r meddylfryd cywir.
- Cysondeb yw’r allwedd i lwyddiant.
- Mae hwn yn grŵp lle mae ymdrech yn cael ei werthfawrogi, mae croeso i gamgymeriadau er mwyn dysgu wrthynt ac adborth yw’r allwedd i lwyddiant pellach.
Y Manteision:
- Fe gewch chi sylfaen gadarn wrth symud o waith Bl9 sy’n sail i Bl.10.
- Byddwn yn datblygu hyder yn y dull gwyddonol sy’n sail i waith arbrofol a thasgau asesu eraill
- Byddwch yn deall y dull gorau o ddadansoddi a gwerthuso mewn cwestiynau.
- Byddwn yn annog eich dealltwriaeth o sut i gysylltu mwy nag un cysyniad gwyddoniaeth yn eich esboniadau
- Byddwch yn adeiladu’r arferion a fydd yn eich helpu mewn Gwyddoniaeth a phynciau eraill
- Byddwch chi wedi gosod eich nod ac yn cynllunio’ch llwybr i lwyddiant
- Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd lle mae rhagoriaeth yn cael ei feithrin
Dyfrig is an excellent tutor to my year 9 ( going into year 10) daughter. Science is not her favourite subject but she is willing to listen and learn with Dyfrig, I highly recommend Dyfrig and Rhagori.
Beth mae pobol yn ei ddweud am Rhagori:
Diolch am wasananeth rhagorol!
Rydym yn hynod hapus gyda’r gwersi – maent yn werthfawr dros ben ac yn cydfynd yn berffaith gyda’r gwaith ysgol sy’n cael ei osod ar y pynciau.
The sessions had limited small numbers which meant every learner was given full attention and any difficulties addressed quickly. It also allowed each learner to feel comfortable enough to ask questions without feeling self conscious.
Agweddau Allweddol – cysyniadau sydd wrth wraidd dealltwriaeth Gwyddoniaeth
Celloedd –
yr uned sylfaenol bywyd a sut mae prosesau bywyd yn eu cynnal

Egni –
Mathau o egni ar cysyniadau o drawsnewid a cadwraeth.

Grymoedd –
Deddfau mudiant ac sut i adnabod effaith grymoedd


Rhyngberthynas –
Sut mae cysyniadau gwahanol yn cysylltu .

Gronynnau –
Sut mae damcaniaeth gronynnau yn esbonio ymddygiad mater a adweithiau.
Dull Gwyddonol –
Sut mae’r dull gwyddonol yn cael ei ddefnyddio i gynllunio arbrofion ac wrth ddadansoddi a gwerthuso data.

Cwestiynau Cyffredin
Pam grwp ac nid un i un?
Mae gweithio fel grŵp yn golygu ein bod yn adeiladu amgylchedd o lwyddiant lle maent yn cymysgu â chyfoedion sydd yn yr un sefyllfa. Rydym yn creu amgylchedd i lwyddiant lle gallant ddysgu oddi wrth ei gilydd a datblygu’r sgiliau cyfathrebu, gweithio mewn grŵp ayyb.
Beth yw’r ymrwymiad?
Mae yna sesiynau byw yr hoffem i bawb eu mynychu a thasgau sydd i’w cwblhau yn eu hamser eu hunain. Bydd dwy sesiwn â ffocws penodol yn ystod yr wythnos lle bydd tasgau i’w cwblhau yn eich amser eich hun. Bydd sesiwn drws agored hefyd ar Ddydd Gwener gall unrhyw un fynychu i drafod problemau unigol.
Cysylltwch i Drafod
Trefnwch alwad ar amser sy’n gyfleus i chi i ddarganfod mwy.


