Gwnewch wahaniaeth i ddysgwyr Cymraeg — gyda hyblygrwydd sy’n gweithio i chi.
Ymunwch â thîm sy’n tyfu o diwtoriaid profiadol sy’n dysgu myfyrwyr brwdfrydig ledled Cymru. Gweithiwch ar-lein, dewiswch eich argaeledd a byddwch yn rhan o gwmni sy’n gwerthfawrogi addysgu o ansawdd.
Defnyddiwch eich arbenigedd i ennill arian a chefnogi dysgwyr cyfrwng Cymraeg.
Ydych chi’n Athro neu Gyn Athro?
Gallwch ennill arian a chefnogi myfyrwyr mewn ffordd effeithiol, hyblyg a phroffesiynol
Ydych chi’n Fyfyriwr, Is-raddedig neu Ôl-raddedig
Gallwn eich helpu i ddechrau tiwtora gan ddefnyddio profiad helaeth y cwmni i gynnal sesiynau effeithiol.
Mae pob gwers yn helpu’r dysgwr i dyfu mewn hyder—nid dim ond gwella canlyniadau arholiad
Gallwn gynnig cymorth :
✅ Oriau hyblyg
✅ Dysgu ar-lein o unrhyw le
✅ Cyfraddau tal cystadleuol
✅ Rydyn ni’n dod o hyd i’r myfyrwyr
✅ Cymorth gweinyddol
✅ Dysgwyr cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel
✅ Tîm cyfeillgar a chefnogol
Tiwtoriaid Proffesiynol
Ar ol cofrestru gyda ni rydym yn dilyn y camau yma i sicrhau ein bod yn defnyddio tiwtoriaid o’r radd flaenaf.
Gwnewch gais ar-lein
Cynhelir cyflweliad ar-lein
Gwiro gwaith papur a DBS
Dechreuwch addysgu
Derbyn taliad
Syml!
Tiwtora o Gatref
Mae tiwtora ar-lein yn dod yn fwy fwy cyffredin ac mae manteision i’r tiwtor a’r myfyrwyr. Medrwch weithio gyda myfyrwyr unrhyw le yn y wlad, heb amser teithio, ac yn medru gweithio gyda nifer fwy.
Fe allwn gynnig yr adnoddau sydd angen arnoch fel rhan o wasanaeth Rhagori. Mae hyn yn cynnwys, meddalwedd fideo gynhadledda a bwrdd gwyn rhyngweithiol sydd â’r gallu i ryngweithio a rhannu adnoddau. Fe allwn ddarparu hyfforddiant a chymorth technegol i sicrhau eich bod chi a’r myfyrwyr yn cael y mwyaf allan o bob sesiwn
Rhai cwestiynau Cyffredin sydd gyda tiwtoriaid!
Beth bydd y tâl?
Mae taliadau yn ddibynnol ar brofiad a chymhwysterau ynghyd â’r galw am y pwnc. Mae’r dewis yn y bôn gyda chi ac byddwn yn gallu cynghori pa fath o cyfradd tal byddai’n addas. Er enghraifft:
Newydd i diwtora gyda profiad cyfynedig – £20 – £30
Peth profiad a adborth positif neu athro gyda phrofiad dysgu diweddar £35 – 40
Profiadol iawn gyda record o adborth da iawn. £40 – 55
Sut byddaf yn cael yn dalu?
Ar ol dechrau bydd gofyn i chi agor cyfrif gyda Stripe sydd am ddim, bydd arian am y sesiwn yn cyrraed y cyfrif stripe o fewn ychydig ddiwrnodau. Yn dilyn pob sesiwn mae angen i diwtoriad gyflawni adroddiad byr pam bydd wedi cwblhau bydd taliad yn cael ei gymryd o’r cleint bydd yn cael ei drosglwyddo yn uniongyrchol. Bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo i’ch cyfrif banc ar ddiwedd y mis. Gallwch newid y dyddiad neu gofyn am drosglwyddiad cynt.
A byddaf yn cael fy nghyflogi gan Rhagori?
Na, rydych yn hunan gyflogedig a mae Rhagori yn gweithredu fel Asiantaeth Cyflogi yn dod o hyd i waith i chi fel tiwtor. I bob pwrpas mae eich cytundeb gyda’r rhieni a dyma pam eich bod yn cael eich talu’n uniongyrchol. Byddwn yn gallu cynnig cefnogaeth, gwybodaeth, a cyngor yn benodol ar gyfer tal.
Pa gefnogaeth sydd ar gael os nad ydw wedi gweithio fel tiwtor o'r blaen?
Cewch fynediad at gyfres o adnoddau yn cynnwys:
- Arweiniad ar strategaethau addysgu effeithiol.
- Darparu mynediad i lwyfannau tiwtora ar-lein gydag offer integredig fel byrddau gwyn rhithwir, fideo-gynadledda, a dogfennau cydweithredol
- Mynediad at gymorth technegol ar gyfer unrhyw offer neu lwyfannau a ddarperir.
- Llwyfan ar gyfer cyfathrebu effeithiol gyda rhieni a myfyrwyr a chasglu taliadau.
- Marchnata a chofrestru disgwyr
Beth os nad oes dim DBS cyfredol gyda fi?
Ei Y gallwn drefnu i chi gael DBS ehangach gallwch ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw diwtora. Byddwn yn gofyn am ymrwymiad o 10 sesiwn lle byddwn yn cymryd ffi ychwanegol er mwyn talu am y DBS.
Faint o oriau a faint o ddysgwyr?
Gallwch ddewis nifer o ddysgwyr, yn gyffredinol byddwn yn gofyn am ymrywymiad o unwaith yr wythnos fel isafswm ar gyfer pob dysgwr. Mae hwn hefyd yn ddibynnol ar y galw.
Pa gymhwysterau sydd angen arnaf?
Bydd angen cymhwyster sy’n angos dealltwriaeth o’r pwnc perthnasol. Mae brwdfrydedd ar cymhelliad ar gyfer gweithio gyda dysgwyr yr un mor bwysig.




