Rhagori mewn Gwyddoniaeth Bl.9
Mae blwyddyn 9 yn flwyddyn bwysig yn enwedig gan ei fod yn gosod sylfaen ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth.
O brofiad o diwtora rydym yn gweld bod llwyddiant yn TGAU wedi seilio ar y sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sydd yn cael eu datblygu ym mlwyddyn 9. Mae’r rhain yn cynnwys y cysyniadau allweddol y gwybodaeth a terminoleg hanfodol, dealltwriaeth o’r dull gwyddonol a’r gallu i ddadansoddi a gwerthuso data yn hyderus.
Gyda’r amser ysgol a gollwyd y llynedd, gall hyn ddod yn fater o bwys cynyddol.
Gall hyn olygu peidio â chyrraedd y radd orau bosibl ac yn sicr gall olygu ei fod yn gwneud y siwrnai i lwyddo yn anoddach nag y mae angen iddi fod. Wrth adeiladu mae angen sylfaen gadarn arnoch chi a dyna beth mae ein rhaglen newydd yn ei ddarparu. Mae’r ffocws ar ddatblygu’r cysyniadau allweddol, strategaethau i ddysgu ac atgyfnerthu terminoleg ac ymarfer cyson dulliau gwyddonol, dadansoddi data a gwerthuso.

Rydym yn gweithio ar dri prif faes:

“Ochr yn ochr â’r strategaethau sy’n helpu dysgwyr i lwyddo mewn Gwyddonaieth rydym hefyd yn darparu amgylchedd gefnogol i fagu hyder ac agwedd gadarnhaol at ddysgu yn ogystal â meithrin yr arferion sy’n adeiladu llwyddiant.”
Y Manteision:
Fe gewch chi sylfaen gadarn mewn cysyniadau a gwybodaeth Wyddonol
Byddwn yn datblygu hyder yn y dull gwyddonol sy’n sail i waith arbrofol a thasgau asesu eraill
Byddwch yn deall y dull gorau o ddadansoddi a gwerthuso mewn cwestiynau.
Byddwn yn annog eich dealltwriaeth o sut i gysylltu mwy nag un cysyniad gwyddonol yn eich esboniadau
Byddwch yn adeiladu’r arferion a fydd yn eich helpu mewn Gwyddoniaeth a phynciau eraill
Byddwch chi wedi gosod eich nod ac yn cynllunio’ch llwybr i lwyddiant
Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd lle mae rhagoriaeth yn cael ei feithrin
Beth mae pobol yn ei ddweud am Rhagori:
Dyfrig is an excellent tutor to my year 9 ( going into year 10) daughter. Science is not her favourite subject but she is willing to listen and learn with Dyfrig, I highly recommend Dyfrig and Rhagori.
The sessions had limited small numbers which meant every learner was given full attention and any difficulties addressed quickly. It also allowed each learner to feel comfortable enough to ask questions without feeling self conscious.
Diolch am wasananeth rhagorol!
Rydym yn hynod hapus gyda’r gwersi – maent yn werthfawr dros ben ac yn cydfynd yn berffaith gyda’r gwaith ysgol sy’n cael ei osod ar y pynciau.

Beth yw’r ymrwymiad?
Mae yna sesiynau byw yr hoffem i bawb eu mynychu a thasgau sydd i’w cwblhau yn eu hamser eu hunain. Bydd opsiwn i fynychu un sesiwn o ddwy yn wythnosol â ffocws benodol yn ystod yr wythnos lle bydd tasgau i’w cwblhau yn eich amser eich hun. Bydd sesiwn drws agored hefyd ar Ddydd Gwener gall unrhyw un fynych i drafod problemau unigol.
Cwestiynau Cyffredin
Pam grŵp ac nid un i un?
Mae gweithio fel grŵp yn golygu ein bod yn adeiladu amgylchedd o lwyddiant lle mae dysgwyr yn cymysgu â chyfoedion sydd yn yr un sefyllfa. Rydym yn creu amgylchedd lle gallant ddysgu oddi wrth ei gilydd a datblygu sgiliau cyfathrebu, gweithio mewn grŵp ayyb.
Pam Ar-lein?
Mae’r holl sesiynau ar-lein ar hyn o bryd gan fod hyn yn dilyn canllawiau Iechyd a Diogelwch o ran Covid ond rydym wedi gweld bod gan hyn fantais benodol. Mae’n cynyddu hyblygrwydd trwy lleihau ar deithio i’r dysgwr a’r tiwtor. Mae’r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd yn golygu y gallwn rannu deunydd yn rhwydd a defnyddio meddalwedd briodol i helpu i addysgu ac atgyfnerthu dysgu.

Cymharu Sesiynau Grŵp a Sesiynau Unigol
Sesiynau Unigol
Yn gallu canolbwyntio yn unig ar faterion penodol neu’r asesiad nesaf
Gall fod yn amgylchedd lle mae pwysau ar y dysgwr
Mae’r ffocws ar yr awr / oriau.
Gellid ystyried mai cael tiwtor yw’r ateb.
Yn dibynnu ar y berthynas â’r tiwtor
Sesiynau Grŵp
Yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder fel bod gan y dysgwr yr hyder i ddelio ag unrhyw beth.
Yn fwy hamddenol, dull grŵp o ddatrys problemau, mae dysgu’n digwydd orau heb straen.
Mae gan y sesiwn fyw yr un pwysigrwydd â’r tasgau a gwblheir yn eu hamser eu hunain. Mae hyn yn annog hunanddisgyblaeth a’r arferion da a fydd yn helpu ar draws y cwrs cyfan.
Y dysgwr sy’n gyfrifol am ei ddysgu a mae’n arwain at newid agwedd, datblygu arferion da a magu hyder.
Daw ysbrydoliaeth o lwyddiant y grŵp a pherthynas â’r tiwtor .
Sut Mae’r Rhaglen yn Gweithio?
Dyma sut mae’n gweithio. Mae yna sesiwn arlein grwp yn ystod yr wythnos i gyflwyno prif syniadau a sut maent yn cael eu defnyddio mewn pynciau penodol.
Yn ogystal, tu allan i’r sesiynau bydd adnoddau ar-lein ar gael yn cynnwys hunan brofion, cyflwyniadau a cwestiynau ymarfer ar gael. Nod yw atgynerthu gwaith y sesiynau. Ar y dudalen bydd na cyfle i ofyn cwestiynau drwy “chat”
Fe fyddwn hefyd yn pennu wythnos lle na fydd sesiynau grŵp ond bydd cyfle i drefnu sesiynau unigol ar gyfer pawb ar y rhaglen.
Sesiwn Byw | AdnoddauArlein | Sesiynau Unigol |
4.00 – 5.00 Sesiwn Byw Llun 5.10 – 6.10pm
|
| Unwaith yr hanner tymor
|


